Sara Peacock: S4C a dysgu Cymraeg yn y byd gwaith | Pennod 23

Jun 18, 2025
40 mins

Episode Description

Helo eto! Y tro yma dwi'n siarad gyda Sara Peacock. O Loegr yn wreiddiol (ond gyda theulu yng Nghymru), priododd hi fenyw o Eryri a symudon nhw i Gaerdydd.

Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg, ac mae'r iaith wedi agor drysau i swyddi newydd. Heddiw mae hi'n gweithio i S4C, ac yn ein sgwrs mae hi'n esbonio sut mae'r sianel yn cefnogi siaradwyr Cymraeg newydd.

Ewch i wefan S4C er mwyn gweld yr holl rhaglenni ac adnoddau i ddysgwyr. Mae hwn yn cynnwys cylchlythyr dysgu Cymraeg a chyfrifon arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol.

***

Cyflwynydd: Richard Nosworthy

Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y PodApple PodcastsSpotify, Pocket Casts

Dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhowch wybod i fi beth dych chi'n meddwl am y pennod yma. 

Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

 

See all episodes